Dylai cymryd eich cam cyntaf ar yr ysgol eiddo fod yn amser cyffrous, ond mae'n bendant yn talu i wneud ymchwil fanwl ac edrych am asiant sy'n aelod o sefydliad proffesiynol megis y Gymdeithas Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai (NAEA) neu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Dyma’n deg prif gyngor i esbonio rhai o'r eitemau allweddol i'w hystyried cyn dod yn berchennog cartref.
Adolygwch ac ystyriwch beth ydych yn chwilio amdano:
- Lluniwch restr o'r hyn ydych ei eisiau ac yn bwysicach yr hyn ydych wirioneddol ei angen yn y cartref newydd.
- Rhannwch y rhestr hon i'r pethau sydd rhaid i chi eu cael, a’r pethau y gallwch chi gyfaddawdu arnynt, bydd hyn yn eich helpu i osgoi gwneud penderfyniad cyflym ac efallai anghywir ar eiddo, byddwch yn realistig a gosodwch eich nodau yn unol â'ch cyllideb.
- Byddwch yn hyblyg.
- Er bod gennych chi'ch rhestr o bethau sydd rhaid i chi eu cael a’r pethau yr hoffech eu cael, mae'n bwysig i fod yn hyblyg.
- Peidiwch â cholli allan ar y cartref a allai fod yn berffaith i chi dim ond oherwydd ei fod y tu allan i'ch ardal ddymunol neu os nad oes gan yr ystafell wely gwpwrdd dillad wedi’i osod.
- Gwrandewch ar werthwr tai profiadol a fydd yn eich tywys drwy'r broses ac efallai edrychwch ar rai eiddo sydd ddim yn apelio ar yr olwg gyntaf, weithiau gydag ychydig o greadigrwydd, gall cartref di-raen ddod yn eich cartref delfrydol.
- Gwiriwch eich cyllid.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu eich holl filiau ar amser.
- Bydd eich sgôr credyd yn cael effaith ar eich opsiynau morgais.
- Efallai yr hoffech siarad â'r ymgynghorydd morgais yn Asiantaeth y Principality yn ein swyddfa yn Llangefni neu Caergybi neu ofyn am gyngor gan Ymgynghorydd Morgais Annibynnol i weld faint y gallwch ei fforddio.
- Cofiwch fod yna gostau eraill yn gysylltiedig â phrynu eiddo megis ffioedd cyfreithwyr, treth stamp, yswiriant cartref, gall ein tîm o arbenigwyr eich helpu gyda’r rhain hefyd.
- Ystyriwch adnewyddu, meddyliwch am eiddo sydd angen ei adnewyddu, gallai hyn fod y dewis cywir i chi.
- Os ydych yn ystyried eiddo sydd angen gwaith, fe'ch cynghorir i gael archwiliad trylwyr a throsolwg realistig o'r gwaith sydd angen ei wneud.
- Defnyddiwch gyfreithiwr da i'ch helpu, unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r eiddo iawn, mae'n bwysig hefyd eich bod chi'n dewis y Cyfreithiwr cywir, rhywun sy'n ddibynadwy a rhywun y gallwch ddibynnu arnynt i weithio'n galed ar eich rhan.
- Rydym bob amser yn meddwl ei bod hi’n well defnyddio Cyfreithiwr lleol sydd â phrofiad lleol - nid y rhataf yw’r gorau bob amser.
- Fel prynwr tro cyntaf, byddwch angen Cyfreithiwr sydd â chyflymder, cywirdeb a sylw trylwyr i fanylion.
- Mwynhewch y broses.
- O'r adeg y byddwch chi'n dechrau chwilio i gwblhau'r gwerthiant a symud i mewn i'ch cartref cyntaf, efallai y bydd y profiad yn cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd ar y dechrau - ond ceisiwch ei fwynhau.
- Cymerwch yr amser i ganolbwyntio ar chwilio am dŷ a chynlluniwch y broses.
- Mae'n debyg mai prynu eich cartref cyntaf yw un o'r penderfyniadau mwyaf y byddwch chi’n eu gwneud a dylech edrych yn ôl ar y cyfnod gydag atgofion melys.