Awgrym Gorau
Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau cynilo, o oed cynnar iawn gallwch agor cyfrif cynilo plant yn ein Hasiantaeth Principality yn Llangefni a Chaergybi, dyma rai awgrymiadau pellach i'ch helpu i ofalu am y ceiniogau ac i sicrhau blaendal ar gyfer eich cartref cyntaf.
- Torrwch y blaendal i lawr i gynllun misol, mae'n ei gwneud hi'n haws i’w gyrraedd yn ffisiolegol.
- Meddyliwch o ddifrif am eich sefyllfa ariannol, a pha arbedion y gallwch eu gwneud er mwyn ei gwneud hi’n haws i gyflawni eich blaendal.
- Os gallwch chi greu a gweithio i gyllideb efallai y byddai werth gwneud hynny, mae'n debyg y bydd gennych gostau misol sefydlog y mae angen i chi eu cadw.
- Byddwch yn realistig - peidiwch â goramcangyfrif y swm y gallwch ei gynilo bob mis gan fod angen i chi hefyd fwynhau bywyd, setlwch ar ffigwr ac os ydych yn cael mis da, gallwch gynilo ychydig mwy. Siaradwch â staff Asiantaeth Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn swyddfeydd TPP yng Nghaergybi a Llangefni, mae yna gyfrifon cynilo gwahanol ar gael, a gall un ohonynt fod yn addas ar eich cyfer chi.
- Trefnwch orchymyn sefydlog neu drosglwyddiad uniongyrchol i drosglwyddo eich arian i'ch cyfrif cynilo, bydd hyn yn eich atal rhag meddwl, oedi neu ailddyrannu'r arian hwn.
- Ar yr amod eich bod chi'n bodloni eich cynllun cynilo, gallwch gymryd egwyl o’r cynilo ar fis eich pen-blwydd er enghraifft i gael trît bach i chi’ch hun.