Book a Property Valuation

Pethau I’w Hystyried Wrth Ddewis Gwerthwr Tai

blog cover image

Pethau I’w Hystyried Wrth Ddewis Gwerthwr Tai

PETHAU I’W HYSTYRIED WRTH DDEWIS GWERTHWR TAI Default Author 14th November 2017

Priswyr profiadol a chymwys yn unig fydd Williams & Goodwin The Property People yn eu caniatáu i archwilio eich eiddo ac i ddarparu arfarniad ar farchnata a phris gofyn awgrymedig.  Dyma ychydig o GWESTIYNAU y dylech eu hystyried:

A yw'r gwerthwr tai wedi'i gymhwyso a'i hyfforddi i gyflwyno barn arbenigol - peidiwch â bod ofn gofyn i'r asiant a ydynt yn gymwys ac yn gwneud CPD (Datblygiad Proffesiynol Parhaus)  

A oes gan y gwerthwr tai o leiaf dair blynedd o brofiad i'w cynorthwyo i awgrymu'r amrediad pris gorau ac a ydynt yn cyflawni'r prisiau maen nhw'n eu hawgrymu? - Peidiwch â chael eich twyllo gan rhai gwerthwyr sy’n sôn am bris uchel gyda’r nod o ennill eich busnes trwy brisio’n uchel - gofynnwch i'r gwerthwr tai pa % o'r pris gofyn gwirioneddol y maent yn ei gyflawni.

A yw'r gwerthwr tai yn aelod o o leiaf un o'r cyrff proffesiynol i roi sicrwydd i chi am eu proffesiynoldeb ymroddedig - chwiliwch am logo aelod trwyddedig (RICS, NAEA, ARLA, NAVA) wedi'r cyfan, ni fyddech yn mynd i mewn i dacsi heb drwydded neu’n cael torri eich gwallt gan steilydd gwallt heb gymhwyso. Felly, rhowch y cyfle gorau i'ch eiddo i ofalu amdanoch chi.

A yw'r gwerthwr tai WIR yn cwmpasu eich ardal chi. Rydych yn talu ffi resymol i unrhyw werthwr tai, peidiwch â bod ofn gofyn faint o staff sydd ganddynt yn eich ardal chi, lle mae'r swyddfa agosaf, a yw'r swyddfa ar agor neu dim ond yn ffenestr sy'n gwneud i chi feddwl eu bod ar agor. Mae swyddfeydd yn dal i ddarparu gwerthiant, maent yn cyflwyno prynwyr a gall tîm o bobl hyfforddedig yn gweithio ynddynt eich helpu i gael y pris gorau.

A oes gan y gwerthwr tai dîm o bobl ymroddedig hyfforddedig. Mae angen hyn i wybod y farchnad leol, pobl sydd nid yn unig yn cyflawni canlyniadau gwerthu eithriadol, ond sydd hefyd gyda record wych o gadw gwerthiannau'n mynd i gyfnewid pan fo prynwr wedi'i ganfod.

Efallai na fydd Papurau Newydd Electronig (a elwir yn werthwyr tai ar-lein) yn cynnig y gwasanaeth cyflawn ar sail debyg i debyg ac mae rhai, pan fyddwch yn edrych ar y print man yn codi mwy ARNOCH am LAI o wasanaeth! 

Os YDYCH eisiau’r pris gorau wedi’i gyfuno â chyflymder a gwasanaeth da, yna edrychwch ar y canlyniadau, siaradwch â phobl eraill sydd wedi gwerthu yn ddiweddar, gofynnwch iddynt am eu barn am eu gwerthwr nhw.

Rydym yn credu bod Williams & Goodwin The Property People Ltd yn bodloni'r holl ofynion hyn, yr unig beth y gofynnwn yw eich bod yn rhoi cyfle i ni drafod eich marchnata a'ch pris.

Pwy ydym ni?

Mae Williams & Goodwin The Property People yn aelodau o’r Gymdeithas Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, y Gymdeithas Asiantwyr Gosod Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Priswyr a’r Arwerthwyr. Rydym hefyd yn Syrfewyr Prisio Siartredig ac yn aelod o Rwydwaith Cenedlaethol o tua 800 o Asiantau Tai annibynnol.

Mwy amdanom ni






Cyfieithwyd y wefan hon gan Bla Translation Ltd
mail@bla-translation.co.uk
www.bla-translation.co.uk

Cysylltu â ni

Eisiau gwybod mwy am Williams & Goodwin a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom heddiw.

Caernarfon - 01286 677 775
Bangor - 01248 355 333
Llangefni - 01248 751 000
Holyhead - 01407 760 500
Property Management - 01248 72 40 40
All Wales Auction - 01248 75 39 39

Cliciwch ymai weld manylion llawn ein swyddfeydd


 
 
 
©2024 Williams & Goodwin The Property People Cymru. All rights reserved. Terms and Conditions | Privacy Policy | Cookie Policy | Members Login
Registered in England & Wales. 
Update Cookies Preferences