Book a Property Valuation
blog cover image

Ein Priswyr

EIN PRISWYR Default Author 14th November 2017

Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod pwy rydych chi'n delio gyda - wedi'r cyfan, fel rheol, rydym yn delio â'ch ased pwysicaf!  

Yn cyflwyno .....  Melfyn N Williams BSc (Anrh) MRICS PPNAEA FNAVA FARLA CPEA  Melfyn N. Williams yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Williams & Goodwin The Property People Cyf. 

Mae Melfyn yn angerddol am y proffesiwn gwerthu tai. Ar ôl dechrau yn y diwydiant yn 1985 ar y Cynllun Hyfforddi Ieuenctid, symudodd ymlaen a chychwyn ei gwmni ei hun gyda'i bartner busnes Tim Goodwin yn 2001. Mae ei gwmni wedi cael ei yrru ymlaen gan wasanaeth cwsmeriaid rhagorol.  Mae’r cwmni wedi ennill 32 o brif wobrau’r diwydiant yn gydnabyddiaeth o’u cyflawniadau, ond yn bwysicaf na dim, gellir dadlau fod Williams & Goodwin wedi creu'r busnes gwerthu tai mwyaf llwyddiannus yn yr ardal.  

Yn 1991 enillodd Melfyn wobr John Collins yr NAEA ar gyfer Myfyriwr y Flwyddyn. Yn 2003, cafodd ei ethol yn Llywydd y Deyrnas Unedig o Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, ef yw’r ieuengaf i ddal y swydd.  Enillodd Melfyn hefyd wobr am ei Gyfraniad Eithriadol i Werthu Tai yng Ngwobrau Gwerthwyr Tai'r Flwyddyn yn 2006.  


Mae Melfyn yn Syrfëwr Prisio Siartredig, yn Arwerthwr ac yn Werthwr Tai: 

Mae Melfyn yn cynnal arwerthiannau tir ac eiddo yn rheolaidd gyda All Wales Auction ac mae'n cefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol gan gynnal arwerthiannau elusennol ar gyfer digwyddiadau lleol.  Mae’n hyfforddwr rygbi iau yn Llangefni. Mae'n sylwebu ar weithgaredd eiddo ar y radio a’r teledu, yn enwedig ar farchnad eiddo Cymru.  Ar hyn o bryd hefyd, mae’n Gadeirydd Corff Llywodraethu Cymdeithas Genedlaethol y Gweithwyr Eiddo Proffesiynol yn y DU. 


I grynhoi:

Teulu: Yn briod gyda dau o blant, yn byw ar Ynys Môn. 

Hobïau: Bridio defaid pedigri Cheviot Gogledd Lloegr. Mae’n mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a chwaraeon. 

Cymdeithasol: facebook.com/tppuk 

Gwe: www.tppuk.com neu www.allwalesauction.com

Pwy ydym ni?

Mae Williams & Goodwin The Property People yn aelodau o’r Gymdeithas Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, y Gymdeithas Asiantwyr Gosod Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Priswyr a’r Arwerthwyr. Rydym hefyd yn Syrfewyr Prisio Siartredig ac yn aelod o Rwydwaith Cenedlaethol o tua 800 o Asiantau Tai annibynnol.

Mwy amdanom ni






Cyfieithwyd y wefan hon gan Bla Translation Ltd
mail@bla-translation.co.uk
www.bla-translation.co.uk

Cysylltu â ni

Eisiau gwybod mwy am Williams & Goodwin a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom heddiw.

Caernarfon - 01286 677 775
Bangor - 01248 355 333
Llangefni - 01248 751 000
Holyhead - 01407 760 500
Property Management - 01248 72 40 40
All Wales Auction - 01248 75 39 39

Cliciwch ymai weld manylion llawn ein swyddfeydd


 
 
 
©2024 Williams & Goodwin The Property People Cymru. All rights reserved. Terms and Conditions | Privacy Policy | Cookie Policy | Members Login
Registered in England & Wales. 
Update Cookies Preferences