Unwaith y byddwch wedi penderfynu camu ar yr ysgol eiddo, gall chwilio
am eich cartref cyntaf fod yn amser cyffrous iawn. Dyma ychydig o bwyntiau
bwled i'ch helpu i ganolbwyntio ar y chwilio ac i aros ar y trywydd iawn.
Awgrym Gorau
Gwahanwch eich anghenion a'ch dymuniadau. Ni waeth pa mor glir a phendant yw eich rhestr o ofynion, mae angen cyfaddawdu yn aml pan fyddwch yn chwilio am gartref, felly cadwch feddwl agored.
- Meddyliwch am y lleoliad, pa mor bell ydych chi'n fodlon teithio i'r gwaith?
- A yw hwn yn gartref y gallech chi hefyd fagu plant ynddo, os felly mae angen ystyried pa mor agos ydych chi at ysgolion, mannau chwarae ac a yw'n gymuned ddiogel?
- Ydych chi'n mwynhau mynd allan? Oes yna ddigon o fannau adloniant gerllaw megis sinemâu, theatrau, bariau a bwytai. Meddyliwch am siopa, fedrwch chi bicio allan am laeth os oes angen.
- A oes yna synnwyr da o gymuned yn yr ardal?
- A oes yna unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r ardal, er enghraifft datblygiadau tai mawr neu gysylltiadau trafnidiaeth?
- Beth yw'r lefel trosedd yn yr ardal?
- A oes angen tŷ arnoch neu a fyddai fflat yn ddelfrydol i chi?
- A oes angen tair ystafell wely arnoch neu a dim ond hoffi cael 3 ystafell wely fyddech chi?
- A fyddech chi'n gallu cynnal a chadw gardd fawr? Faint o le tu allan sydd wir ei angen arnoch?
- Beth am barcio eich car?
- Peidiwch ag anghofio ystyried beth yw'r Dreth Cyngor ac a allwch ei fforddio?
- A fyddai ffitiadau’r gegin a’r ystafell ymolchi yn iawn dros dro - efallai y gallech eu hadnewyddu nes ymlaen?
- Oes gan yr eiddo’r potensial i fod yn gartref addas i chi er nad yw'n ymddangos felly ar yr olwg gyntaf?