Book a Property Valuation
blog cover image

Cyn Gwneud Cynnig

PRYNU CARTREF – Y BROSES Default Author 17th July 2017

Ar ôl i chi ddod o hyd i’r eiddo rydych eisiau ei brynu, y cam nesaf yw gwneud cynnig.

Cyn gwneud cynnig:

·    Edrychwch ar ychydig o eiddo i gael syniad o'r hyn y gallwch ei gael am eich arian a chymharu prisiau. Mae’r farchnad yn newid os yw eiddo'n gwerthu’n gyflym, efallai y bydd angen i chi symud yn gyflym a byddai'n well gwneud hynny gyda gwybodaeth.

·    Os yw eiddo wedi bod ar y farchnad am gyfnod nid yw'n golygu o reidrwydd bod y pris yn anghywir. Efallai ei fod wedi bod ar werth am bris uwch a bod y pris wedi cael ei ostwng yn ddiweddar. Mae'n werth nodi bod rhai eiddo, er enghraifft, rhai sydd ar ben uchaf y farchnad, yn cymryd mwy o amser i'w gwerthu.

·    Os mai hwn yw’r unig eiddo o’i fath yn yr ardal, mae'r gwerthwr mewn sefyllfa gref gydag ychydig o gystadleuaeth, sy'n golygu y gallent fod yn llai tebygol o dderbyn cynnig is.

·    Os ydych wedi sylwi ar waith sydd angen ei wneud, efallai y byddwch eisiau gwneud cynnig is. Ond cofiwch y gallai rhai gwerthwyr tai fod wedi prisio'r eiddo i adlewyrchu'r cyflwr. Efallai yr hoffech ystyried arolwg prynwr cartref, felly os oes yna rywbeth yr ydych wedi'i golli neu nad ydych yn ddigon cymwys i sylwi arno, dylai’r arolwg ei bigo i fyny.

·    Peidiwch ag anghofio gofyn pa osodiadau a ffitiadau sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Os oes gan y gegin ynys fawr sydd yn llawn offer  sydd heb ei gynnwys yn y gwerthiant, bydd angen i chi brynu'r offer hwn pan fyddwch yn symud i mewn. Gall cost yr eitemau hyn fynd yn ddrud ac mae'n werth ei ystyried.

Gall eich sefyllfa ariannol rhoi mantais i chi hefyd. Os ydych yn brynwr tro cyntaf, os nad ydych mewn cadwyn neu os oes gennych forgais wedi’i drefnu ymlaen llaw, rydych mewn gwell sefyllfa a dylech sicrhau eich bod yn gwneud hynny’n glir i'r gwerthwr tai wrth wneud cynnig.    

Pwy ydym ni?

Mae Williams & Goodwin The Property People yn aelodau o’r Gymdeithas Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, y Gymdeithas Asiantwyr Gosod Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Priswyr a’r Arwerthwyr. Rydym hefyd yn Syrfewyr Prisio Siartredig ac yn aelod o Rwydwaith Cenedlaethol o tua 800 o Asiantau Tai annibynnol.

Mwy amdanom ni






Cyfieithwyd y wefan hon gan Bla Translation Ltd
mail@bla-translation.co.uk
www.bla-translation.co.uk

Cysylltu â ni

Eisiau gwybod mwy am Williams & Goodwin a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom heddiw.

Caernarfon - 01286 677 775
Bangor - 01248 355 333
Llangefni - 01248 751 000
Holyhead - 01407 760 500
Property Management - 01248 72 40 40
All Wales Auction - 01248 75 39 39

Cliciwch ymai weld manylion llawn ein swyddfeydd


 
 
 
©2024 Williams & Goodwin The Property People Cymru. All rights reserved. Terms and Conditions | Privacy Policy | Cookie Policy | Members Login
Registered in England & Wales. 
Update Cookies Preferences