Book a Property Valuation

MAE PROFIAD YN BWYSIG; mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod gyda phwy ydych chi'n delio â nhw. Wedi'r cyfan, rydym yn delio yn ôl pob tebyg â'ch ased pwysicaf.

Dyma grynodeb cryno o'r 15 mlynedd diwethaf.
 


2017

Ennill gwobr y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru, Cymdeithas y Gweithwyr Eiddo Proffesiynol am y 3ydd flwyddyn yn olynol ac rydym yn edrych ymlaen at lwyddiant parhaus


2016

Ennill gwobr y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru, Cymdeithas y Gweithwyr Eiddo Proffesiynol am y 2il flwyddyn yn olynol a chael ein cynnwys ymhlith yr 20 uchaf yn y DU am yr Adolygiadau Cwsmeriaid Gorau gan rateragent.


2015

Ennill gwobr y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru, Cymdeithas y Gweithwyr Eiddo Proffesiynol


2014

Ennill Gwobr NAVA am y Cwmni Arwerthu Gorau yn y DU


2013

Agor swyddfa newydd yng Nghaernarfon ac ennill gwobr y Cwmni Arwerthu Gorau yn y DU am y 3ydd tro


2012

Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Busnes Achievement Wales y Daily Post am y Busnes Canolig Gorau yng Nghymru


2011

Ennill Gwobr y Cwmni Arwerthu Gorau yn y DU The Sunday Times. Cyrraedd rownd derfynol y wobr Gwerthwr Tai Gorau yn y DU. Cyrraedd rownd derfynol gwobrau Rhwydwaith SHE


2010

Ennill Gwobr Arian y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru. Cael ein dewis fel y gwerthwr tai gorau yng Ngwynedd a Môn gan Gymdeithas y Gwerthwyr Tai Proffesiynol


2009

Cael ein henwebu ymhlith yr 16 Gwerthwr Eiddo Gorau yn y Byd. Ennill teitl y Gwerthwr Tai Gorau yn y DU am yr ail dro. Ennill Gwobr Aur am yr Asiant Gosod Gorau yng Nghymru. Enillodd ein brand newydd All Wales Auction wobr yng Ngwobrau Busnes Achievement Wales y Daily Post am y busnes newydd gorau


2008

Ennill Gwobr Aur am y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru. Ennill Gwobr Arian am yr Asiant Gosod Gorau yng Nghymru. Ennill teitl yr Arwerthwr Eiddo Preswyl gorau yn y DU yng ngwobrau The Negotiator


2007

Agor swyddfa yn canolbwyntio ar Reoli Eiddo a Gosodiadau ger ein prif swyddfa yn Stryd yr Eglwys, Llangefni. Ennill Gwobr Aur am yr Asiant Gosod Gorau yn y DU. Ennill Gwobr Arian am y Gwerthwr Tai Gorau yng Nghymru


2006

Ennill Gwobr am yr Asiantaeth Marchnata gorau yn y DU Gorau yng Ngwobrau Eiddo The Daily Mail. Cyflwynwyd gwobr Cyfraniad Eithriadol i'r Diwydiant i Melfyn Williams gan Penny Smith o GMTV.


2005

Ennill Gwobr Ryngwladol The Daily Mail / Bentley am y Gwerthwr Tai gorau yn y DU


2004

Ein swyddfa Caergybi yn agor ar safle amlwg ar ben Stryd Stanley


2003

Williams & Goodwin The Property People yn ennill gwobr am y defnydd gorau o e-fasnach yng Ngwobrau Busnes Achievement Wales y Daily Post. Ein cyd-sylfaenydd Melfyn Williams yn cael ei benodi yn llywydd ieuengaf Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai

Pwy ydym ni?

Mae Williams & Goodwin The Property People yn aelodau o’r Gymdeithas Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, y Gymdeithas Asiantwyr Gosod Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Priswyr a’r Arwerthwyr. Rydym hefyd yn Syrfewyr Prisio Siartredig ac yn aelod o Rwydwaith Cenedlaethol o tua 800 o Asiantau Tai annibynnol.

Mwy amdanom ni






Cyfieithwyd y wefan hon gan Bla Translation Ltd
mail@bla-translation.co.uk
www.bla-translation.co.uk

Cysylltu â ni

Eisiau gwybod mwy am Williams & Goodwin a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom heddiw.

Caernarfon - 01286 677 775
Bangor - 01248 355 333
Llangefni - 01248 751 000
Holyhead - 01407 760 500
Property Management - 01248 72 40 40
All Wales Auction - 01248 75 39 39

Cliciwch ymai weld manylion llawn ein swyddfeydd


 
 
 
©2024 Williams & Goodwin The Property People Cymru. All rights reserved. Terms and Conditions | Privacy Policy | Cookie Policy | Members Login
Registered in England & Wales. 
Update Cookies Preferences